Telerau ac Amodau
Er mwyn galluogi Miri Mawr i barhau i ddarparu’r gofal gorau posib, mae angen i rieni gydymffurfio â’r Telerau ac Amodau canlynol.
- Wedi ichi gael cynnig lle yn swyddogol ym Miri Mawr gan y Rheolwraig, anfonir Ffurflen Gofrestru atoch a dylech ei dychwelyd yn syth atom gyda blaendal, a ad-delir pan fydd eich plentyn yn cychwyn yn y feithrinfa. Bydd dychwelyd y Ffurflen Gofrestru yn syth yn cadarnhau lle i’ch plentyn.
- Rhaid ichi nodi dyddiad (os ydych chi’n ei wybod) a’r mis y bydd eich plentyn yn cychwyn ym Miri Mawr. Anfonebir chi o’r dyddiad a nodir ar y Ffurflen Gofrestru, a lofnodir gan y rhieni.
- Nodwch unrhyw newidiaidau manylion yn y Ffurflen Gofrestru e.e. rhifau ffôn.
- Anfonebir rhieni yn fisol ac rydym yn derbyn Talebau Plant. Bydd methiant i dalu ffioedd yn arwain at derfynu’r cytundeb.
- Telir ffioedd drwy’r flwyddyn ac eithrio Gwyliau Banc a phan mae’r feithrinfa ar gau yn ystod cyfnod y Nadolig.
- Rhoddir Llawlyfr i rieni cyn i’w plentyn gychwyn ym Miri Mawr. Mae’r llawlyfr yn cynnwys gwybodaeth amrywiol ynghyd â pholisiau’r feithrinfa. Rhaid eu darllen a llofnodi eich bod wedi darllen yr uchod ac yna dychwelyd y ffurflenni priodol i’r feithrinfa. Rydym yn cadw’r holl gofnodion yn gyfrinachol.
Termau ac Amodau llawn ar gael o Miri Mawr.