Amdanom Ni

Agorodd Miri Mawr ei ddrysau ym mis Hydref 2001 gyda staff cymwysedig ynghyd â dwy athrawes brofiadol, Meinir Williams a Wendy Wylie. Rydym wedi ein cofrestru gan Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru sy'n ein harolygu'n flynyddol. Rydym hefyd yn cael ein harolygu gan ESTYN.

Lleolir y feithrinfa mewn tŷ ar wahân yn Ystum Taf ac mae yma ardd drawiadol. Mae'r ystafelloedd yn olau a chroesawgar ac yn cynnwys adnoddau dysgu safonol ar gyfer pob oedran. Mae lleoliad cyfleus Miri Mawr yn galluogi'r plant i fynd am dro yn rheolaidd i ymweld â'u cymuned leol e.e. Taith Taf, y llyfrgell, parciau a siopau.

Mae Miri Mawr yn feithrinfa Gymraeg sydd ag awyrgylch hapus, gofalgar a diogel.