|
O ba oedran rydych yn derbyn plant ym Miri Mawr? |
|
Mae lle i drideg chwech o blant ym Miri Mawr o chwe wythnos oed hyd at oedran ysgol. Rydym yn gofalu am blant yn llawn amser neu’n rhan amser. |
|
Beth yw oriau agor/cau Miri Mawr? |
|
Mae Miri Mawr ar agor o 8.00 y bore tan 6.00 yr hwyr, pum niwrnod yr wythnos. Disgwylir i rieni gasglu eu plant yn brydlon am 5.55 ac mae’r feithrinfa yn cau ei drysau am 6.00. Nid ydym yn gallu gofalu am blant cyn 8.00 y bore neu ar ôl 6.00 yr hwyr. Mae’r feithrinfa ar gau ar Wyliau Banc ac hefyd yn ystod wythnos y Nadolig. |
|
Pa fath o fwyd a weinir ym Miri Mawr? |
|
Paratoir y bwyd yn ffres bob dydd gan ein cogydd. Mae’r plant yn cael brecwast dau gwrs, cinio a the dau gwrs. Mae ein bwydlen yn newid bob tair wythnos. Cawn ein cig o’r siop gigydd leol (Driscolls). Cyn cychwyn yn y feithrinfa, trafodir anghenion dietegol y plentyn gyda’r Rheolwraig. |
|
Beth sydd angen ar fy mhlentyn? |
|
Paratoir llaeth potel ar gyfer babanod gan y staff bob dydd ac mae Miri Mawr yn darparu cewynnau. Mae angen bag o ddillad sbâr ar eich plentyn wedi’u labelu’n glir. Mae angen hefyd pâr o welintons sy’n cael eu cadw ym Miri Mawr. Mae hefyd angen het ac eli hau yn nhymor yr haf. Mae’n hanfodol eu bod yn cael eu labelu’n glir. |
|
Ydy Miri Mawr yn gweithredu’r Cyfnod Sylfaen?
|
|
Nod Miri Mawr yw ehangu agweddau positif y plant tuag at ddysgu. Gweithredir y Cyfnod Sylfaen lle mae’r plant yn dysgu drwy chwarae ac yn meithrin dealltwriaeth sylfaenol yn y chwe maes dysgu canlynol:
- Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
- Datblygiad Mathemategol
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol
|
|
Pa fath o weithgareddau mae’r plant yn eu gwneud ym Miri Mawr? |
|
Paratoir llu o weithgareddau amrywiol ar gyfer y plant. Mae pwyslais dyddiol ar y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 – 5 oed lle maent yn dysgu sut mae pethau’n gweithio a darganfod ffyrdd gwahanol o ddatrys problemau. Addaswyd ein gardd eang i’r diben hwn lle mae’r plant yn plannu a thyfu llysiau a blodau, chwarae â dwr/tywod, beiciau ac yn y blaen. Mae’r plant yn cael cyfle i chwarae y tu allan beth bynnag yw’r tywydd a darperir dillad glaw pwrpasol ar eu cyfer. |
|
Ydy’r plant yn mynd allan o gyffiniau’r feithrinfa yn ystod y dydd? |
|
Mae’r plant yn mynd am dro allan i’r gymuned leol yn rheolaidd. Maent yn ymweld â’r llyfrgell, parc a siopau lleol. Trefnir gwibdeithiau sy’n cyd-fynd â’n thema deufisol ar gyfer y plant hŷn e.e. Techniquest, lan y môr (Barri), Pantomeim, Bae Caerdydd ac yn y blaen. Hefyd trefnir ymweliadau lle mae pobl o’r gymuned yn dod i siarad â’r plant e.e. y Frigâd Dân leol, Meddyg, Deintydd ac ati. |
|
Faint o staff sydd ym Miri Mawr? |
|
Mae’r gymhareb staff i blant fel a ganlyn:
0 - 18 mis - 1:3
18 - 24 mis - 1:3
2 - 3 mis - 1:4
3 - 5 mis - 1:8 |
|
Mae gan y Rheolwyr gymwysterau priodol ynghyd â thystysgrif a phrofiad dysgu sylweddol. Mae pob aelod o staff yn meddu ar neu yn gweithio tuag at gymhwyster pwrpasol ar gyfer gweithio gyda phlant. Mae pob aelod o staff yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae gennym gysylltiad agos â cholegau ac ysgolion lleol. |
|
Beth os yw fy mhlentyn yn sâl? |
|
Os yw plentyn yn sâl, dylai aros gartref nes ei fod yn holliach. Gofynnir i bob rhiant ddilyn canllawiau’r feithrinfa ynglŷn â salwch. Rhoddir y rhain i chi wrth i’r plentyn gychwyn ym Miri Mawr. Pe bai plentyn yn cael ei daro’n sâl yn y feithrinfa, byddwn yn cysylltu â chi yn syth. Gofynnir i chi roi gwybod i’r feithrinfa os oes gan eich plentyn salwch heintus e.e. brech yr ieir.
|
|
Beth yw polisi iaith Miri Mawr? |
|
Meithrinfa Gymraeg yw Miri Mawr a Chymraeg yn unig a siaredir yma. |
|
Ydych chi’n gofalu am blant ag anghenion arbennig? |
|
Diwellir anghenion plant sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig yn y feithrinfa, lle cant eu haddysgu ochr yn ochr â’u cyfoedion, lle bo hynny’n bosibl. Ystyrir yn fanwl pob cais sydd yn ymwneud â phlentyn ag anghenion arbennig i sicrhau bod yna adnoddau priodol a bod anghenion pob plentyn yn cael eu diwallu. |
|
Oes gan Miri Mawr bolisi Cyfle Cyfartal? |
|
Nod Miri Mawr yw cynnig cyfle cyfartal i bob plentyn ym mhob agwedd ar fywyd y feithrinfa heb wahaniaethu ar sail rhyw, crefydd, dosbarth cymdeithasol neu anabledd. Mae pob plentyn o’r un gwerth, a rhaid inni osod yr un gwerth ar alluoedd, doniau a sgiliau pob plentyn.
|